Postio nesaf o'r 2ail o Ionawr. Nadolig Llawen! Next posting from the 2nd of January. Merry Christmas!
Postio nesaf o'r 2ail o Ionawr. Nadolig Llawen! Next posting from the 2nd of January. Merry Christmas!
Cart 0

2022

Roedd 2022 yn flwyddyn heriol imi yn sicr, ond ges i lot fawr o lwyddiant a llawenydd hefyd. Dyma fi’n rhannu chydig o hynny gyda chi.

2022 oedd y flwyddyn lle wnes i ddysgu pethau y ffordd galed. Roeddwn i’n benderfynol o newid pethau a llywio’r busnes mewn cyfeiriad chydig yn wahanol. Penderfynais yn 2021 mod i am stopio cymryd comisiynau oedd ddim yn dod a hapusrwydd imi – pethau fel brandio a logos. Dwi wrth fy modd yn gwneud pethau priodas felly o’n i dal isio gwneud hynny. Cefais gynnig comisiynau anhygoel oedd yn amhosib eu troi lawr. Ond o’n i’n trio ffigro allan be oeddwn i isio ddigwydd efo’r busnes a sut fath o waith oeddwn i eisiau ei greu.

O’n i hefyd yn stryglo i godi digon ar bobl i wneud y comisiynau werth fy amser. Bues yn gweithio yn galed iawn yn 2022 a ddim yn dod a gymaint o bres fewn. Bron mod i ofn codi ar rai o bobl, oedd yn wirion. Yn aml doeddwn i heb roi amcanbris ar y cychwyn a roeddwn i’n gadael anfonebu tan y diwedd ac yn dreadio gyrru’r anfoneb! Os ti’n tan-brisio ychydig bach ar lot o bobl yna mae’n adeiladu a dwi’n meddwl mod i isio i bob dim fod mor berffaith mod i’n treulio gormod o amser ar bethau lle nad oeddwn i’n cael fy nhalu i wneud.

Dwi’n byw adra gyda dad a phan does ‘na ddim digon o bres yn dod fewn ond ti’n gweithio’n ofnadwy o galed, ti’n dechrau meddwl dy fod di am fyw adra am byth. Roeddwn i hefyd yn rhy brysur i wneud cynnyrch newydd, rhywbeth dwi wrth fy modd yn ei wneud.

Ond yn wahanol i rai prosiectau y flwyddyn gynt, roeddwn i wrth fy modd gyda’r gwaith oeddwn i’n ei greu. Roedd mynd i’r stiwdio bob dydd yn gyffrous. Roedd y busnes yn llwyddiannus a ro’n i’n brysur a’n llwyddo i dalu rent a buddsoddi yn y busnes, ond doedd ‘na ddim cweit ddigon o bres ar ôl imi gael cyflog da fy hun.

Dwi’n deall yn llwyr fod yna gostau pan ti’n cychwyn busnes a bo lot o bobl yn mynd heb gyflog yn y cychwyn. Dw i’n byw adra heb forgais a heb blant, a dad yn gefnogol felly roeddwn i mewn lle breintiedig o’r cychwyn.

Erbyn 2023 dwi wedi codi fy mhrisiau a byddai’n cael tâl da am fy arbenigedd. Dwi hefyd yn gyrru amcanbris penodol ar y cychwyn (rhywbeth ddylwn i fod wedi ei wneud ers lot). Os ydi’r amcanbris yn rhy uchel i rywun, mae hynny’n oce a dwi’n symud ymlaen i weithio ar rywbeth gwahanol. Roedd hi’n wers anodd i’w dysgu ond yn un hanfodol.

 

Gwaith

Dechreuais y flwyddyn yn gorffen comisiwn i Boom Cymru, o ddylunio anrhegion i selebs rhaglen ‘Iaith ar Daith’ S4C. Cafodd pob un gerdd unigryw wedi ei sgwennu yn arbennig iddyn nhw gan fardd Cymraeg. Cafwyd eu darlunio yn hardd gen i gyda llun o le oedd yn arbennig iddyn nhw. Roedd hi’n ofnadwy o gyffrous gweld fy lluniau ar y teledu bob wythnos, a gweld ymateb y selebs i’r cerddi.

Fis Ionawr aeth Iwan (fy nghariad) a minnau lawr i Gaergrawnt i gasglu gwasg fach Adana, wnes i ei hennill ar e-bay. Dyma’r wasg fach Letterpress wnes i ei defnyddio i wneud gwahoddiadau fy mrawd, a chyn hynny, gwahoddiadau Alaw a Steffan. Mae’r wasg yma’n un sy’n eistedd ar ben bwrdd a ti’n defnyddio lot o fôn braich i bwyso stamp fewn i’r papur. Dyma’r wasg wnaeth newid popeth!

2022 oedd blwyddyn y priodasau imi, gyda 15 o gyplau wedi ymddiried yno fi i greu gwahoddiadau a phethau i’r dydd iddyn nhw. Ymysg rhain oedd gwahoddiadau fy mrawd, Gruffydd.

Ar ôl gwneud dwy set o wahoddiadau ar y wasg fach, o’n i’n gwybod mod i angen gwasg fwy os oeddwn i am ei ddefnyddio i’r busnes. Gwelais ar Instagram fod rhywun yn adnewyddu wasg fawr (Arab Crown Folio) ac yn lwcus iawn pan oedd o’n barod i’w gwerthu, roeddwn i ar ben y rhestr. Ges i fenthyciad gan dad a mis Mai, aeth Iwan a finnau lawr i ochrau Southampton i’w chasglu. (Mae honna’n stori ar wahân – gwelwch fy mlog arall am yr hanes!)

Dwi ‘di dysgu Letterpress yn gyflym iawn – dipyn o baptism by fire. Ers hynny, dwi wedi rhyddhau casgliad o brints Letterpress a wedi creu set arall o wahoddiadau priodas. Fedrai ddim disgwyl i weld be fedrai ei ddylunio nesaf.

Un o fy mhrosiectau balchaf yn 2022 oedd darlunio lluniau i’r llyfr ‘Nadolig’ gan Mererid Hopwood a Tudur Dylan Jones. Ges i weithio gydag Alaw o Barddas i greu clawr a lluniau i fynd tu mewn i’r llyfr. Dwi erioed wedi paentio fel hynny o’r blaen felly roedd yn rhywbeth hollol newydd imi. Mae’n eistedd yn falch ar fy silff.

Gefais y cyfle i redeg gweithdai llynedd, rhai ar-lein a rhai mewn person. Dwi ‘di dysgu mod i ddim y gorau am gynnal gweithdy gyda teenagersnot my strong point! Ond mae’n rhaid i chdi drio i wybod does. Ella mod i angen mwy o ymarfer – fyddai bendant isio cynnal gweithdai Letterpress yn y dyfodol pan fyddai wedi dysgu mwy fy hun.

Er fod y siop wedi gwneud hanner gymaint o elw a’r flwyddyn gynt, nes i werthu mwy o galendrau nag erioed. Nes i ryddhau lot llai o gynnyrch newydd felly byddai’n ffocysu mwy ar hynny yn 2023. Think premium paper goodness!

Yn annisgwyl ges i wobr busnes hefyd! Pan o’n i’n cychwyn yn 2020, ges i lot o help gan yr Hwb Menter. Ges i gyngor busnes wrth gwblhau’r rhaglen Miwtini a help i geisio am grant yn ogystal a chyngor 1-1. O’n i’n falch iawn o dderbyn gwobr ‘Miwtini Gorau’. Cafon ni fynd i’r noson wobrwyo yn M-Sparc, Ynys Môn lle cafodd fusnesau bach arall eu dathlu a ges i dderbyn fy ngwobr, yn giddy i gyd. www.hwbmenter.cymru

 

Bywyd

Dwi’n trio bod yn agored pan yn son am fy mywyd ar Instagram ond dwi hefyd yn gyndyn o rannu gormod.

Bues i’n dathlu pedair mlynedd gyda Iwan fis Tachwedd.

Ges i cofid ddwywaith llynedd, wnaeth fy llorio fi ond do’n i ddim yn ddifrifol sâl.

Dwi ‘di stryglo gyda iselder a gorbryder yn y gorffennol a pan wnes i deimlo fy ngorbryder yn gwaethygu tua Medi 2021 nes i gymryd naid fawr a chysylltu gyda chwnselydd yn breifat. Bues i’n cario mlaen i fynd i therapi bob wythnos yn 2022 ac yna bob pythefnos tan yr haf. Mae’n un o’r pethau gorau dwi erioed wedi ei wneud a dwi’n siwr byddai’n mynd nol ati yn y dyfodol pan fydd pethau heriol yn codi yn fy mywyd. Wnes i fynd ar wefan Cwnselwyr – meddwl.org a chysylltu gyda chwnselydd drwy fana. Faswn i’n argymell i bawb fynd, mae’n helpu i chi ddod i nabod eich hun a mae’n ffordd mor iach o brosesu bywyd. Os nad ydych chi’n gallu fforddio mynd yn breifat, mae ‘na lawer o lefydd yn cynnig cwnsela am ddim ond mae’n rhaid i chi gymryd y naid i gysylltu gyda nhw.

Dwi ‘di bod yn son ar Instagram am nofio yn y môr, fy hobi newydd. Wedi fy ysbrydoli gan fy ffrind Lucy, dwi ‘di dal ati i fynd dros yr gaeaf a dwi’n credu’n gryf ei fod wedi helpu gyda fy SAD y gaeaf yma. Mae’n andros o llesol, er ei fod dipyn yn boncers.

Buon ni’n dathlu fel teulu fis Gorffennaf ar gyfer priodas fy mrawd Gruffydd gyda Manon. Roedd o’n ddiwrnod i’w gofio.

Nes i chwerthin gymaint llynedd a mwynhau bywyd, gyda’r ups a downs.

Mae ‘na lot fawr dwi heb gael cyfle i’w ddweud ond fasa chi yma drwy’r dydd fel arall! Dwi’n obeithiol iawn am 2023, heb roi gormod o bwysau ar fi fy hun. Dwi’n dal i fyw fy mreuddwyd yn cael dod i fy stiwdio a potshan bob dydd. Mae ‘na lot o waith caled wedi dod a fi i fama, ond lot o gefnogaeth hefyd.

Gobeithio bydd 2023 yn flwyddyn hapus i chi.

Heledd x


Older Post