Amdanaf | About Me

Heledd dwi a dwi’n ddarlunydd o Ynys Môn. 

Mae gennai radd o Brifysgol Caeredin lle wnes i astudio Darlunio. Sefydlais y cwmni yn 2020 a disgynnais mewn cariad gyda'r gwaith. Yn 2025 penderfynais gymryd cam yn ôl o'r gwaith i ehangu fy sgiliau mewn gwahanol feysydd. 

Mae gen i stiwdio yn Llangefni ac am flynyddoedd gallwch ddod o hyd i mi yno yn pacio archebion, arbrofi gyda chynnyrch newydd ac yn dylunio ar y cyfrifiadur. Roedd fy amser yn cael ei rannu rhwng dylunio a gwerthu cynnyrch drwy fy siop ar-lein, gweithio ar wahoddiadau priodas a gweithio ar gomisiynau. 

Yn 2022 prynais fy Llythrenwasg er mwyn datblygu fy sgiliau 'Letterpress'. Bues yn cynnig y gwasanaeth ar gyfer comisiynau a gwahoddiadau priodas, yn ogystal a gwerthu cynnyrch Letterpress. 

Gallwch ddod o hyd i rai o'r prosiectau rwyf wedi gweithio arnyn nhw dros y blynyddoedd ar y dudalen Portffolio. Byddaf yn diweddaru'r dudalen yn fuan.

Am y tro dydw i ddim yn gweithio ar y busnes yn rheolaidd ac felly ddim yn cymryd unrhyw waith newydd ymlaen. 

 

I'm Heledd, an illustrator from Anglesey and I am a fluent Welsh speaker.

I have a degree from the University of Edinburgh where I studied Illustration. I set up my business in 2020 and I fell in love with the work. In 2025 I decided to take a step back, to expand and develop my skills in different areas.

I have a small studio in Llangefni where over the years you could find me packing orders, experimenting with new products and designing on my computer. My time was shared between designing and selling products for my online shop, designing wedding stationery and working on commissions. 

In 2022 I purchased my Letterpress printing press, an 1890s Arab Crown Folio printing press. I offered the service for commissions and wedding stationery, as well as selling beautiful Letterpress paper goods.

Find examples of the projects I’ve worked on over the years on my Portfolio page. I'll be updating this page soon.

For now I'm not working on the business regularly and therefore not taking on any new work.

Featured in/on : Radio Cymru Geraint Lloyd, Cylchgrawn Barn, Yr Arwydd, Prynhawn Da S4C, Radio Cymru Sian Eleri.