Yn 2020 dechreuais weithio gydag elusen iechyd meddwl Gymraeg Meddwl.org. Bwriad y prosiect oedd i ryddhau dyfyniadau positif ar y cyfryngau cymdeithasol bob dydd Llun gyda’r gobaith o wneud i bobl wenu, neu i deimlo nad oedden nhw ar eu pen eu hunan. Penderfynnais ar y dyfyniadau gyda thîm Meddwl.org cyn i mi fynd ati i’w darlunio.
Ar y pryd doedd dim o’r fath ar gael yn y Gymraeg. Roedd y prosiect yn llwyddiant mawr a cafodd groeso mawr gan bobl. Ar ddiwedd y flwyddyn casglais yr holl ddyfyniadau a chreu pecyn o gardiau post ‘Cardiau Caredig’ i’w gwerthu gyda hanner yr elw yn mynd i’r elusen.
Yn 2022 fe wnaethom ail flwyddyn o ddyfyniadau wedi eu darlunio, a’u casglu i becyn ‘Cardiau Cysur’.
Rydw i’n falch iawn o’r gwaith a’r croeso gafodd y dyfyniadau gan bobl. Mae llawer o ysgolion a mudiadau yn arddangos y cardiau. Mae’n sgwrs mor bwysig wrth i nifer fawr o bobl gael trafferth gyda eu hiechyd meddwl ar ryw bwynt yn eu bywydau.
Gallwch brynu’r pecynnau yn fy siop ar-lein gyda phris gostyngol i sefydliadau addysgol.
-
In 2020 I started working with the Welsh mental health charity Meddwl.org. We shared a positive quote on social media every Monday with the hope of making people smile or feel like they weren’t by themselves. We chose the quotes together and they were illustrated by me.
At the time there was nothing like it in Welsh. The project was a huge success and had a great response by people. At the end of the year I collected all the quotes and created a pack of postcards called ‘Cardiau Caredig’ / ‘Kind Cards’ which came with a list of English translations and half of the profit going to the charity.
In 2022 we created another year of illustrated quotes which I then collated into the new pack ‘Cardiau Cysur’ / ‘Comfort Cards’.
I’m very proud of this project and the welcome it received. Many schools and establishments have these postcards up on their walls. It’s such an important topic as many of us will struggle with our mental health at some point in our lives.
You can purchase the postcards in my online shop with a discounted price for educational establishments.